C.P.D. Tref y Bala

C.P.D. Y Bala
Enw llawn Clwb Pêl-droed Y Bala
Llysenw(au) Lakesiders
Sefydlwyd 1880
Maes Maes Tegid
Cadeirydd Baner Cymru Paul Higginson
Rheolwr Baner Lloegr Colin Caton
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2023/24 3.

Clwb pêl-droed o dref Y Bala, Gwynedd ydy Clwb Pêl-droed Tref Y Bala (Saesneg: Bala Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran bêl-droed yng Nghymru.

Mae lle i gredu fod clwb pêl-droed yn bodoli yn Y Bala ym 1880, ac er fod y llinach i'r clwb presennol yn aneglur, mae'r clwb yn cydnabod 1880 fel y blwyddyn y cafodd ei ffurfio[1].

Chwaraeir eu gemau cartref ar Faes Tegid, Y Bala, maes sydd yn dal uchafswm o 3,000 o dorf gyda 504 o seddi.

  1. "Bala Town: General Information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-03. Cyrchwyd 2014-08-18. Unknown parameter |published= ignored (help)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy